The Rowan
Organisation
Cefnogi Annibyniaeth trwy Ddewis
Cynllun Iaith Gymraeg
Paratowyd y cynllun gwirfoddol hwn yn unol â
Chanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan
Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993
Cymeradwywyd y Cynllun Iaith Gymraeg hwn, sydd wedi ei
ddiweddaru, gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 1af Mai 2008
Ddim i'w ddosbarthu heb awdurdod

CYNNWYS:
3.5 Cyhoeddusrwydd, hysbysebu a marchnata
4. Cyflwyno gwasanaethau i'r cyhoedd sy'n siarad Cymraeg
4.4 Cysylltiadau wyneb i wyneb
4.5 Cyfarfodydd cyhoeddus, cyflwyniadau a digwyddiadau
diwrnod agored
5. Gweithredu a monitro'r cynllun
5.4 Trefniadau gweinyddol ar gyfer hwyluso'r Cynllun
6. Rhoi Cyhoeddusrwydd i'r Cynllun
Mae
gwybodaeth bellach ar Gynllun Iaith Gymraeg y Rowan Organisation ar gael gan:
Mr. Rob
Wilson
Prif
Weithredwr
The
Rowan Organisation
CV10 7RH
Ffôn: 02476
322 860
Ffacs: 02476
374 948
Minicom:
02476 374 439
E-bost:
rob.wilson@therowan.org
Mae'r
Cynllun Iaith Gymraeg hwn i'w weld ar wefan y Rowan Organisation, www.therowan.org
Os
hoffech gael copi o'r Cynllun Iaith Gymraeg hwn ar fformat arall, cysylltwch â
Gwasanaeth Gwybodaeth y Rowan Organisation ar 0800 783 1755.
Mae'r Rowan Organisation yn rhoi mynediad i
wybodaeth, gwasanaethau ac adnoddau i bobl anabl a phobl hŷn, er mwyn gwella
eu cyfle i gymryd penderfyniadau drostynt eu hunain, trwy eu galluogi i gymryd
penderfyniadau cytbwys ynglŷn â'u dyfodol.
Rydym yn ymdrechu i fod yn Gorff Cyfle
Cyfartal ac rydym yn ymroddedig i ddatblygu cydraddoldeb cyfle ym mhob agwedd
o'n gwaith.
Ein datganiad gwybodaeth yw:
“Mae'r Rowan
Organisation yn bodoli i roddi mynediad i wybodaeth a chefnogaeth i bobl anabl
a phobl hŷn er mwyn iddynt fedru cymryd
penderfyniadau cytbwys a rheoli eu bywydau eu hunain”.
Ein Datganiad Gweledigaeth yw:
“Cymdeithas sy'n gwbl
gynhwysol, lle mae'r rhwystrau sy'n atal pobl anabl rhag cael cydraddoldeb
cyfle, boed yn amgylcheddol, yn agweddol neu'n sefydliadol, wedi cael eu dileu”.
Mae'r Rowan Organisation yn darparu
gwybodaeth a chefnogaeth mewn nifer o siroedd ledled Cymru a Lloegr ac, yn
benodol, mae'n ddarparydd Gwasanaeth Cefnogi Taliadau Uniongyrchol a benodwyd dan
gontract i'r awdurdod lleol dan sylw. Mae'r awdurdod lleol yn darparu'r holl
gyllid ar gyfer y gwasanaethau rydym yn eu cyflwyno dan gontract. Wrth gyflwyno
ei wasanaethau, mae'r Rowan Organisation yn darparu gwybodaeth, cyngor a
chefnogaeth i bobl anabl a hŷn trwy gyfrwng timau o Gynghorwyr Byw'n
Annibynnol sy'n gweithio o'u cartrefi a Gwasanaeth Gwybodaeth a Gwasanaeth
Cyflogau, sydd wedi eu lleoli yn y Brif Swyddfa yn Lloegr.
Mae'r Rowan Organisation eisoes yn darparu gwybodaeth ac adnoddau sylweddol ar ffurf ddwyieithog, a gall hefyd ymateb i geisiadau gan unigolion i gael cyfieithu dogfennau penodol i'r Gymraeg os gofynnir am hynny. Yn ogystal, mae gan y corff Rif Rhadffôn sy'n cael ei ateb gan aelod staff sy'n siarad Cymraeg.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf (2007) gan Fwrdd yr
Iaith Gymraeg yn dangos bod y gallu i siarad, darllen, ysgrifennu a deall y
Gymraeg yn parhau i gynyddu.
|
|
% |
|
Deall Cymraeg llafar yn unig |
24 |
|
Siarad ond ddim yn darllen nac ysgrifennu Cymraeg |
21 |
|
Siarad a darllen ond ddim yn ysgrifennu Cymraeg |
20 |
|
Siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg |
16 |
Nid yw Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn rhoi cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyrff
gwirfoddol i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg. Fodd bynnag, gan fod y Rowan
Organisation yn gweithio dan gontract gyda nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru
i ddarparu ei wasanaethau i aelodau o'r cyhoedd, mae'n gwbl ymroddedig i
weithredu'r Cynllun i gefnogi'r Ddeddf a Chynlluniau awdurdodau lleol unigol.
Paratowyd y Cynllun hwn yn unol â chanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan ddefnyddio'r canllawiau arferion da sydd ar gael trwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Wrth
weithredu’r Cynllun hwn, bydd gwasanaethau'r Rowan Organisation yn fwy hygyrch
a chynhwysol, egwyddor rydym yn gwbl ymroddedig iddi.
Fel
corff sy'n cael ei arwain gan ddefnyddwyr gwasanaeth, bydd y Cynllun hwn yn
destun ymgynghoriad ac adolygiad gyda'n defnyddwyr gwasanaeth.
Bydd
datblygu'r Cynllun hwn yn helpu gosod sylfeini i'n hymrwymiad i sicrhau cyfle
cyfartal i bawb. Mae rhan o hyn yn cynnwys ceisio sicrhau bod gan y bobl sy'n
defnyddio'n gwasanaethau yr hawl i ddewis eu defnyddio trwy gyfrwng y Gymraeg
neu'r Saesneg.
Mae'r
Rowan Organisation yn ymroddedig i ddarparu safon gwasanaeth sydd yr un mor
uchel yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd y Rowan Organisation hefyd yn sicrhau bod
polisïau a blaengareddau newydd yn gyson â Chynllun yr Iaith Gymraeg, trwy
reolaeth reolaidd a chyfarfodydd Bwrdd a phroses fonitro ac adolygu ansawdd.
Wrth
gyflwyno cefnogaeth i Gynlluniau Taliadau Uniongyrchol yng Nghymru:
2.2.1 Cred
y Rowan Organisation ei bod yn deg a rhesymol i unigolyn ddisgwyl derbyn
gwasanaeth yr un mor gynhwysfawr yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Er y gall y Rowan
Organisation gynnig gwybodaeth a gwasanaethau helaeth yn y Gymraeg eisoes, mae'n
cydnabod bod angen datblygu ymhellach i gefnogi'n llawn yr egwyddorion a nodwyd
yn y Cynllun Iaith Gymraeg hwn. Bydd yn gweithio tuag at fedru cynnig
gwasanaeth yr un mor gynhwysfawr, effeithiol ac o safon uchel trwy gyfrwng y
Gymraeg ag y mae'n ei ddarparu yn y Saesneg ar hyn o bryd, cyn belled â'i bod
yn briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.
2.2.2 Bydd
gwybodaeth brintiedig, cyflwyniadau, deunydd sain ac arddangosfeydd yn cael eu
cyflwyno ar ffurf ddwyieithog ble bynnag y bo'n ymarferol, neu fel arall ar wahân
yn y Gymraeg a'r Saesneg, fel yr amlinellir yn y cynllun gweithredu (Adran 7).
2.2.3 Bydd y wybodaeth a ddisgrifir uchod yn cael ei chyflwyno yn yr
un ffurf ac i'r un safon broffesiynol, boed yn y Gymraeg neu'r Saesneg, fel yr
amlinellir yn y cynllun gweithredu (Adran 7).
2.2.4 Bydd
yr holl ddeunydd a gaiff ei gyfieithu yn cael ei brawf-ddarllen gan drydydd person
neu aelod staff gyda'r sgiliau priodol cyn ei gyhoeddi.
2.2.5 Wrth
gyflwyno gwasanaethau cefnogi lleol, datblygir ymhellach gyfathrebiad llafar yn
y Gymraeg, fel yr amlinellir yn y cynllun gweithredu (Adran 7).
2.2.6 Mae'r
gwasanaethau a ddarperir gan y Rowan Organisation yn dod dan reolaeth
gyffredinol ei Fwrdd Rheoli a'r Prif Weithredwr. Cyfrifoldeb y rheolwyr yw
datblygu a chynnal cyflwyniad gwasanaethau yn ddwyieithog.
2.2.7 Bydd y Cynllun yn cael ei adolygu'n rheolaidd ac fe gaiff ei weithrediad ei fonitro i sicrhau cynnal safonau uchel.
2.2.8 Bydd ymwybyddiaeth o'r Cynllun hwn a'i ofynion yn cael ei gynnal trwy sicrhau ymwybyddiaeth a hyfforddi staff ar bob lefel trwy'r corff.
Bydd delwedd gyhoeddus y Rowan Organisation wrth gyflwyno ei wasanaethau yng Nghymru yn ddwyieithog. Mae hyn yn cynnwys (ond nid yw wedi ei gyfyngu i) is-benawdau corfforaethol, papur pennawd, cardiau busnes a bathodynnau adnabod, slipiau cyfarch, llofnodion e-bost.
Ar hyn o bryd nid oes gan y Rowan Organisation swyddfeydd yng Nghymru ac mae'r holl aelodau staff sy'n cyflwyno gwasanaethau yn lleol yn gweithio o'u cartref. Ar hyn o bryd, felly, nid yw arwyddion yn berthnasol nes sefydlir swyddfa/swyddfeydd o'r fath.
3.3.1 Bydd maint, fformat ffont, ansawdd ac amlygrwydd y ddwy iaith ar holl ddeunyddiau corfforaethol a ddefnyddir neu sydd ar gael yng Nghymru, yr un fath.
3.3.2 Mewn perthynas â'r uchod, mae
deunyddiau o'r fath yn cynnwys (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i) adroddiadau
blynyddol, llyfrynnau a thaflenni, taflenni ffeithiau, hysbysiadau cyhoeddus,
gwahoddiadau a deunydd marchnata.
3.3.3 Bydd cynllun dichonoldeb i gyflwyno'r
Newyddlen / Bwletin chwarterol fel dogfen ddwyieithog yn rhan o gynllun
gweithredu'r Cynllun.
3.3.4 Bydd cynllun dichonoldeb i ddatblygu
a chynnal adran iaith Gymraeg ar y wefan bresennol yn rhan o gynllun
gweithredu'r Cynllun.
3.4.1 Bydd holl hysbysiadau a datganiadau a
wneir gan y Rowan Organisation i'r wasg a'r cyfryngau yng Nghymru yn
ddwyieithog, oni fônt i'r cyfryngau Cymraeg eu hiaith, pan gyflwynir datganiad
yn y Gymraeg yn unig.
3.4.2 Bydd y Rowan Organisation yn sicrhau
bod llefarydd dwyieithog ar gael ar gyfer cyfweliadau â'r cyfryngau.
3.5.1 Bydd
holl ddeunydd cyhoeddusrwydd, hysbysebu, marchnata ac arddangosfeydd, boed ar
bapur neu ar lafar, a gynhyrchir gan neu ar ran y Rowan Organisation yng
Nghymru, yn ddwyieithog. Bydd deunydd o'r fath yn glynu at yr ymrwymiadau a
nodir yn y cynllun hwn mewn perthynas â deunydd a gyhoeddir neu a argraffir.
3.5.2 Mae'r
trefniadau uchod yn cynnwys (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i) lyfrynnau,
taflenni, posteri, deunydd clyweled, deunydd arddangos sy'n gysylltiedig ag
arddangosfeydd a chynadleddau, y wasg, holiaduron ac adolygiadau ansawdd.
3.5.3 Bydd
aelodau staff ac eraill sy'n chwarae rhan yn y gwaith o gynllunio, dylunio a
chynnal ymarferion hysbysebu, cyhoeddusrwydd neu ymchwil i'r farchnad yn cael
eu hysbysu o ofynion y cynllun ac yn derbyn canllawiau ysgrifenedig.
3.6.1 Mae'r
corff yn cydnabod angen a manteision dodi hysbysebion dwyieithog mewn
cyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg eu hiaith os yw am annog staff sy'n siarad
Cymraeg i ymuno â'r corff. Dodir hysbysebion Cymraeg yn unig mewn cyhoeddiadau
Cymraeg eu cyfrwng, a hysbysebion Saesneg yn unig mewn cyhoeddiadau a gyhoeddir
trwy'r Deyrnas Unedig.
3.6.2 Wrth
baratoi a chyhoeddi hysbysebion i recriwtio staff, bydd y Rowan Organisation yn
dilyn y canllawiau a amlinellir yn adran 5.3 y cynllun hwn.
4.1.1 Bydd
holl ohebiaeth ysgrifenedig a dderbynnir yn y Gymraeg (boed trwy'r post, ffacs
neu e-bost) yn derbyn ateb yn y Gymraeg.
4.1.2 Bydd
gohebiaeth Gymraeg yn cael ateb o fewn yr un amserlen â gohebiaeth Saesneg.
4.1.3 Bydd
staff y Rowan Organisation bob amser yn ceisio canfod dewis iaith y derbyniwr
wrth gychwyn gohebiaeth ysgrifenedig.
4.1.4 Cedwir
cofnodion ar ddata-basau lleol a chanolog yn nodi dewis iaith y defnyddiwr
gwasanaeth ar gyfer cyfathrebiad ysgrifenedig a llafar.
4.1.5 Wrth
anfon gwybodaeth at nifer o bobl yng Nghymru e.e. gwahoddiadau, adolygiadau
ansawdd, bydd yr holl wybodaeth yn cael ei hanfon yn ddwyieithog.
4.1.6 Os
bydd aelod staff yn derbyn gohebiaeth yn y Gymraeg ac nid yw'n deall y cynnwys,
gofynnir i gydweithiwr dwyieithog gyfieithu'r ohebiaeth. Lle nad oes modd
gwneud hyn, gofynnir i asiantaeth allanol gyfieithu'r ohebiaeth.
4.1.7 Gellir
darparu cyfieithiad mewnol gan aelodau staff sy'n siarad Cymraeg ar sail
wirfoddol. Ar gyfer darnau gwaith mawr, cymhlethach, defnyddir gwasanaeth
cyfieithu allanol.
4.1.8 Rhoddir
canllawiau i staff ac aelodau ar sut i ddelio â'r materion uchod.
4.2.1 Bydd
cyfeiriad e-bost penodol ymholiadau cyffredinol ar gael i bobl sydd eisiau
cysylltu â'r corff trwy gyfrwng y Gymraeg.
4.2.2 Bydd
gan holl staff sy'n cyflwyno gwasanaethau lleol yng Nghymru lofnodion e-bost
dwyieithog.
4.2.3 Pan
gaiff adran Gymraeg y wefan ei datblygu, bydd yn caniatáu cyfathrebu yn y
Gymraeg trwy'r Ffurflen Adborth, a fydd yn cysylltu â'r cyfeiriad e-bost
Cymraeg penodol. Bydd datblygu'r gwasanaeth hwn a'r angen am gyllid allanol yn
cael ei drin yng nghyfnod gweithredu'r Cynllun.
4.3.1 Bydd
yr holl alwadau i'r rhif Rhadffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn cael eu hateb
yn ddwyieithog a bydd y galwr yn cael dewis parhau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
4.3.2 Ar
ôl sgwrs ar y ffôn yn y Gymraeg, bydd yr holl gyfathrebiad wedi hynny, boed yn
ysgrifenedig neu ar lafar, trwy gyfrwng y Gymraeg, os mai dyna ddymuniad y
galwr.
4.3.3 Bydd
y neges sydd wedi ei recordio ar beiriant ateb y llinell Rhadffôn Gymraeg yn
ddwyieithog. Bydd croeso i alwyr adael neges yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Atebir
unrhyw negeseuon ar y peiriant ateb yn yr iaith a ddefnyddir gan y galwr.
4.3.4 Os
nad oes aelod staff ar y rhif Rhadffôn am unrhyw reswm, bydd y neges
ddwyieithog ar y peiriant ateb yn cyfeirio’r galwr i rif arall a gaiff ei ateb
yn ddwyieithog.
4.3.5 Bydd
galwadau i rif y Brif Swyddfa (Lloegr) yn cael eu derbyn gan aelod staff nad
yw'n medru siarad na deall Cymraeg. Bydd yr aelod staff yn esbonio i'r galwr na
fedr gyfathrebu yn y Gymraeg ac yn cynnig naill ai bod y galwr yn galw rhif
Rhadffôn Cymraeg neu gynnig cymryd manylion y galwr a threfnu bod cydweithiwr
sy'n siarad Cymraeg yn galw'n ôl cyn gynted ag y bo modd.
4.3.6 Rhoddir
canllawiau ysgrifenedig i aelodau staff mewn perthynas â galwyr ffôn sy'n
siarad Cymraeg.
4.4.1 Gellir
cynnal ymweliadau yn y cartref trwy ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg. Os nad
oes aelod staff sy'n siarad Cymraeg ar gael a derbynnir atgyfeiriad neu gais am
ymweliad trwy gyfrwng y Gymraeg, trefnir bod aelod staff dwyieithog o ardal
ddaearyddol wahanol yn ymweld â'r unigolyn.
4.5.1 Pan
fydd staff y Rowan Organisation yn trefnu cyfarfodydd lleol a hysbysebir yn
lleol, gwneir trefniadau i sicrhau bod aelod staff dwyieithog ar gael, ac fe
wneir hyn yn amlwg ar ddeunydd cyhoeddusrwydd neu ffurflenni trefnu.
4.5.2 Pan wahoddir staff y Rowan
Organisation i fynychu dyddiau agored a drefnir gan grwpiau neu gyrff lleol
eraill, trefnir bod aelod staff dwyieithog yn bresennol os oes angen.
4.5.3 Os gwahoddir aelodau staff y Rowan Organisation i fynychu cyfarfodydd grŵp penodol neu 'gaeëdig' dylid canfod ymlaen llaw os oes angen i aelod staff dwyieithog fod yn bresennol.
5.1.1 Mae'r Rowan Organisation yn ymroddedig i sicrhau bod y Cynllun hwn yn cael ei weithredu (yn amodol ar unrhyw ystyriaethau cost a nodwyd), ei fonitro, ei adolygu a'i ddiweddaru pan fo angen.
5.1.2 Bydd
y Rowan Organisation yn sicrhau bod y
Cynllun hwn yn cael ei gynrychioli trwy
Bolisi Cyfle Cyfartal y corff. Bydd y Prif Weithredwr yn sicrhau bod y Cynllun
hwn yn cael ei dderbyn fel elfen gynhenid o bolisïau corfforaethol y Rowan
Organisation.
5.2.1 Bydd
holl swyddi newydd a swyddi presennol sy'n dod yn wag yn y siroedd hynny yng
Nghymru lle rydym yn cyflwyno gwasanaethau yn dod dan yr ymrwymiadau a nodwyd
yn y cynllun hwn.
5.2.2 Bydd
y Rowan Organisation yn cynnal data-bas o'r aelodau staff hynny sydd â sgiliau
digonol i ddelio â'r cyhoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.
5.2.3 Ni
ddisgwylir i staff ymgymryd ag unrhyw waith nad ydynt wedi eu paratoi ar ei
gyfer neu na fedrent ei wneud mewn perthynas â'r iaith Gymraeg. Mae cyfieithu,
yn benodol, yn sgil arbenigol ac ni ddisgwylir i unrhyw aelod staff wneud hyn,
oni chaiff ei gyflogi i wneud hynny.
5.2.4 Bydd
staff presennol a newydd yn y siroedd Cymreig yn cael eu hannog gan y Rowan
Organisation i ddatblygu a gwella eu sgiliau iaith Gymraeg, trwy gynnig a
chefnogi cyfleoedd dysgu. Serch hynny, nid yw hyn yn orfodol ac ni fydd
pwysau'n cael ei roddi ar staff a gwirfoddolwyr i chwarae rhan mewn unrhyw
hyfforddiant yn erbyn eu hewyllys. Ni
fydd staff nad ydynt yn siarad Cymraeg yn teimlo pwysau nac anfantais oherwydd
eu gallu ieithyddol.
5.2.5 Bydd
cyfleoedd a darpariaeth hyfforddi yn cael eu monitro'n barhaus.
5.3.1 Er
mwyn medru cynnal gweithlu dwyieithog yng Nghymru, bydd y Rowan Organisation yn
adnabod y swyddi a'r lleoliadau hynny lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn
hanfodol neu'n ddymunol ac yn llunio swydd-ddisgrifiadau a manylebau person yn
unol â hynny.
5.3.2 Os
bydd yn anodd penodi person dwyieithog addas i swydd lle ystyrir bod y gallu i
siarad Cymraeg yn hanfodol, cynigir y swydd ar sail y ffaith bod person nad
yw'n siarad Cymraeg yn dangos ymrwymiad i ddysgu'r iaith i lefel sy'n briodol i gyfrifoldebau'r swydd. Bydd y Rowan
Organisation yn rhoi'r gefnogaeth a'r amser gofynnol i'r unigolyn fodloni'r
amod hwn.
5.3.4 Os
na ellir cyflwyno hysbyseb yn ddwyieithog am resymau cost, bydd datganiad yn
ymddangos yn y Gymraeg sy'n cyfeirio'r siaradwr Cymraeg i wefan y Rowan
Organisation (adran Swyddi Gweigion) lle bydd yr hysbyseb yn ymddangos yn y
Gymraeg a'r Saesneg. Bydd pob hysbyseb yn nodi os yw'r gallu i siarad Cymraeg
yn hanfodol, yn ddymunol neu os nad yw'n ofyniad.
5.3.5 Ar
gyfer swyddi lle ystyrir bod y Gymraeg yn hanfodol, bydd yr hysbysebion
recriwtio (mewnol, y wasg allanol, canolfannau gwaith ac ati) yn y Gymraeg yn
unig, gydag esboniad yn y Saesneg yn nodi pam yr hysbysebir y swydd yn y
Gymraeg yn unig:
“Hysbyseb
yw hon ar gyfer swydd lle mae'r gallu i gyfathrebu
trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol”.
5.3.6 Bydd holl benodiadau yn parhau i gael eu gwneud ar haeddiant ac yn unol â pholisïau cyfle cyfartal a deddfwriaeth cyflogaeth.
5.3.7 Ar
gyfer swyddi lle mae Cymraeg llafar yn hanfodol, bydd siaradwr Cymraeg yn gofyn
nifer o gwestiynau (a gytunir gan y panel cyfweld) yn y Gymraeg. Ar gyfer
swyddi lle mae Cymraeg ysgrifenedig yn hanfodol, bydd y siaradwr Cymraeg yn
cyflwyno prawf ysgrifenedig.
Bydd gweithrediad ll